Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 25 Mai 2017
Amser: Times Not
Specified
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4217
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Angela Burns AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Yr Athro Vanessa Burholt, Prifysgol Abertawe Dr Deborah Morgan, Prifysgol Abertawe Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Rachel Lewis, Age Cymru Wales Victoria Lloyd, Cyfarwyddwr Dylanwadu a Datblygu Rhaglenni, Age Cymru Emma Harris, Samaritans Sarah Stone, Samaritans Dr Kellie Payne, Campaign to End Loneliness |
Staff y Pwyllgor: |
Sian Thomas (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Stephen Boyce (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Jayne Bryant AC a Julie Morgan AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Vanessa Burholt a Dr Deborah Morgan.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
3.2 Cytunodd y Comisiynydd i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda'i barn am yr hyn y dylid ei gynnwys yn strategaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Age Cymru.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o'r Samariaid a'r Campaign to End Loneliness.
5.2 Cytunodd y Samariaid i ddarparu rhagor o wybodaeth am arolwg diweddar gan y Gymdeithas Frenhinol Iechyd Cyhoeddus ar effaith cyfryngau cymdeithasol ar lesiant meddyliol pobl ifanc. Gwnaethant hefyd gytuno i roi rhagor o wybodaeth am gost hunanladdiad, yn nhermau ariannol ac emosiynol.
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitemau 2, 3, 4 a 5 y cyfarfod.
8.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried drafft cyntaf yr adroddiad ar ei ymchwiliad i recriwtio meddygol.